Mae Neuadd Gwyn ar gael ar gyfer cynadleddau, achlysuron arbennig a phartion preifat.
Gallwn ddarparu ar gyfer unrhyw ddigwyddiad ni waeth beth yw ei faint. Mae lle i hyd at 393 yn eistedd mewn seddi rhenciog yn arddull y theatr yn y prif awditoriwm. Mae fformatau cabaret amrywiol ar gael hefyd.
Mae’r stiwdio’n cynnig y cyfarpar diweddaraf, gan gynnwys sgrin taflunydd LCD, sgrin 3m, darllenfa a chyfarpar sain a goleuo ar gyfer cynadleddau.
Mae gan y stiwdio lawr sbringog, wal ddrych a barau sy’n ei gwneud yn lle perffaith ar gyfer dosbarthiadau a gweithdai dawns a drama.
Mae seddi i 73 yn y pod sinema ac mae ar gael ar gyfer arddangosiadau preifat a gemau.
Mae’r ystafell gyfarfod ar gael i grwpiau llai. Mae tim Neuadd Gwyn yn gwarantu y bydd yn diwallu’ch anghenion gyda gwasanaeth proffesiynol a phersonol. Mae caffi ac ardal bar trwyddedig gyda
Wi-Fi am ddim yn y lleoliad ac mae gwasanaeth arlwyo ar gael ar gais. Neuadd Gwyn. Mae yn ôl ac mae’n well nag erioed ac ar gael mewn 3D!!!!
I neilltuo lle neu am ymholiadau, e-bostiwch ein hadran logi yn gwynhire@celticleisure.org